Pam mae moroedd Cymru yn bwysig?
Môr yw bron hanner tiriogaeth Cymru, gyda bron 15,000km² o’r dyfroedd glannau yn cefnogi bywyd gwyllt, cymunedau arfordirol a rhannau mawr o economi Cymru.
Mae oddeutu 60% o’r boblogaeth yn byw neu’n gweithio ar bwys yr arfordir, gan ddibynnu ar ecosystemau morol ac arfordirol iach am fwyd, swyddi, trafnidiaeth, hamdden ac amddiffyniad rhag stormydd ac erydu.
Cymru hefyd sydd ag un o’r rhwydweithiau ehangaf o Ardaloedd Gwarchodedig Morol yn y DU, yn ymestyn dros 69% o ddyfroedd ei glannau. Mae’r ecosystemau hyn yn storio carbon, yn cefnogi bioamrywiaeth ac yn darparu asedau naturiol sy’n cynnal economi las Cymru. Mae buddsoddiad hirdymor yn hanfodol i ddiogelu a chryfhau’r buddion hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Pam mae angen y gronfa?
Mae’r newid yn yr hinsawdd, colli cynefinoedd a’r galw cynyddol am fannau morol yn rhoi arfordiroedd a moroedd Cymru o dan fwyfwy o bwysau.
Er bod polisïau a rheoliadau yn gosod y cyfeiriad, mae angen buddsoddiad hirdymor i droi uchelgais yn weithredu ymarferol. Crewyd Cronfa MARINE Cymru i ddenu cyfraniadau gwirfoddol a’u cyfeirio at brosiectau sydd wedi’u cynllunio’n dda sy’n cryfhau iechyd a gwydnwch ecosystemau morol ac arfordirol ledled Cymru.
Mae Cronfa MARINE Cymru yn cyllido gweithgareddau sy’n cyflwyno effaith go iawn, fel:
- Adfer cynefinoedd a rhywogaethau
- Datrysiadau seiliedig ar natur ar gyfer pwysau’r hinsawdd a phwysau arfordirol
- Ymchwil, data ac adnoddau sy’n galluogi adferiad ar raddfa fawr
- Sgiliau, hyfforddiant a phartneriaethau sy’n galluogi adferiad yr ecosystem forol
- Gwella amgylchedd morol Cymru’n uniongyrchol
- Cydsefyll â chronfa a gefnogir gan bolisi cenedlaethol a throsolwg arbenigol
- Dangos arweinyddiaeth wrth weithredu ar fioamrywiaeth, yr hinsawdd a chamau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (AGLl)
- Cefnogi prosiectau sy’n cyflwyno canlyniadau ystyrlon i fyd natur a phobl
Mae pob cyfraniad yn wirfoddol ac nid yw’n gysylltiedig â’r broses gynllunio na chaniatâd
Cymryd rhan
Am ddiweddariadau neu i drafod cymorth posibl i Gronfa MARINE Cymru, cysylltwch ag:
Anna Elliott – Rheolwr Datblygu Cronfa MARINE Cymru
Ebost: [email protected]
Ffôn: 029 20431731
