Croeso i Gronfa MARINE Cymru

'Cyllido prosiectau sy’n cryfhau gwydnwch ecosystemau morol ac arfordirol Cymru.'

Yr amgylchedd morol yng Nghymru yw un o asedau naturiol mwyaf gwerthfawr y wlad, yn cefnogi bioamrywiaeth, gwydnwch yn erbyn yr hinsawdd a chymunedau arfordirol. Ond, mae angen buddsoddiad hirdymor i amddiffyn a gwella ein hecosystemau morol ac arfordirol yn wyneb pwysau cynyddol.

Dengys amcangyfrifon diweddar fwlch cyllido sylweddol ar gyfer y gwaith sydd angen ei wneud i adfer ecosystemau arfordirol a morol yng Nghymru, sy’n amlygu’r angen am ffynonellau newydd a dibynadwy o gymorth.

Mae Cronfa MARINE (Gwydnwch Morol a Gwella Ecosystemau Naturiol) Cymru yn gronfa newydd a ddyluniwyd i gael cyfraniadau gwirfoddol[1] gan y rheini sydd eisiau cefnogi adferiad ecosystemau morol ac arfordirol Cymru. Caiff y cyllid hwn ei ddosbarthu wedyn trwy grantiau i brosiectau gwydnwch moroedd ac arfordiroedd ledled Cymru.

I fusnesau, mae cyfrannu at y gronfa yn ffordd o wneud gwahaniaeth hirdymor go iawn i’r amgylchedd morol y maen nhw’n dibynnu arno. Mae’n dangos ymrwymiad credadwy i gyfrifoldeb amgylcheddol ac yn cefnogi datblygiad cynaliadwy economi las Cymru.

[1] Yn yr achos hwn, cyfraniad gwirfoddol yw un nad yw’n gysylltiedig â gofynion rheoleiddio trwy iawndal neu liniaru. Bwriedir i Gronfa MARINE Cymru fod yn gyllid gwirfoddol ar wahân i rwymedigaethau statudol.

Barafundle Bay Photo By Anna Elliott

Cronfa MARINE Cymru

“Mae cynefinoedd arfordirol fel morwellt a morfeydd heli yn helpu i amddiffyn cymunedau rhag erydiad, yn storio carbon ac yn cefnogi bioamrywiaeth.”

Fideos gan Iestyn Morgan

Nid yw Cronfa MARINE Cymru ar agor eto am geisiadau grant.


Mae’r Gronfa yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, a gwaith ar droed i sefydlu ei llywodraethiant, blaenoriaethau cyllido a’i phrosesau grant. Agorodd i dderbyn cyfraniadau yn Ionawr 2026 ac mae’n gobeithio lansio ei chylch grant gyntaf yn ddiweddarach y flwyddyn hon.


Delwedd: llun gan Ken Barnett
Nid yw Cronfa MARINE Cymru ar agor eto am geisiadau grant.

“Mae cefnogi adferiad yr ecosystem forol yn fwy na’r peth iawn i’w wneud, mae’n ddewis strategol i fudiadau sy’n dibynnu ar amgylchedd morol sefydlog a gwydn”.

Porwch drwy’r wefan...

Edrychwch ar ddiben y Gronfa a sut gall busnesau a mudiadau gyfrannu at adferiad yr ecosystem forol yng Nghymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd grant yn y dyfodol, ewch i’r adran Grantiau i gael y diweddaraf ar gylchau cyllido i ddod.

Mae llawer o bobl yn anymwybodol o’r amrywiaeth o fywyd môr anhygoel sydd yn nyfroedd Cymru. Dolffiniaid, llamidyddion a morloi yw dim ond rhai o’r rhywogaethau sy’n dibynnu ar foroedd iach.


Trwy Gronfa MARINE Cymru, bydd cyllid yn cefnogi prosiectau sy’n amddiffyn ac adfer y cynefinoedd y mae’r rhywogaethau hyn yn dibynnu arnynt – ochr yn ochr â gwaith ehangach sy’n gwella gwydnwch amgylchedd morol ac arfordirol Cymru.


Delwedd: llun gan Ken Barnett
Mae llawer o bobl yn anymwybodol o’r amrywiaeth o fywyd môr anhygoel sydd yn nyfroedd Cymru. Dolffiniaid, llamidyddion a morloi yw dim ond rhai o’r rhywogaethau sy’n dibynnu ar foroedd iach.

Dolffiniaid Cyffredin yn nofio – fideo gan James Shelton

Rhagor o Wybodaeth

Am ddiweddariadau neu i drafod cymorth posibl i Gronfa MARINE Cymru, cysylltwch ag:

Anna Elliott – Rheolwr Datblygu Cronfa MARINE Cymru

Ebost: [email protected]

Ffôn: 029 20431731

Delwedd: llun gan Ken Barnett
^
cyWelsh