Coast Path Walk Near Fishguard Photo By Anna Elliott

Cefndir

Delwedd: Llun gan Anna Elliott

Menter gan Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (CaSP Cymru) yw’r Gronfa sy’n dod â’r llywodraeth, rheolyddion, y diwydiant, y sector gwirfoddol a’r byd academaidd ynghyd i ddatblygu blaenoriaethau cyffredin ar gyfer yr amgylchedd morol.

Cafodd CGGC ei benodi gan CaSP Cymru i reoli’r Gronfa a darparu’r arbenigedd mewn llywodraethiant, rheolaeth ariannol a llunio grantiau oedd ei angen i’w weithredu’n annibynnol ac i safon uchel.

Caiff Cronfa MARINE Cymru ei goruchwylio gan Grŵp Llywio annibynnol gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ystad y Goron, CGGC ac aelodau CaSP Cymru, gan gynnwys cyrff anllywodraethol amgylcheddol o’r diwydiant (am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen ein partneriaid yma). Mae’r strwythur hwn yn sicrhau bod penderfyniadau cyllido yn dryloyw, yn gredadwy ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau morol Cymru.

Mae Cronfa yn cael ei datblygu gydag ysbrydoliaeth o fodel llwyddiannus Cronfa Gwella Amgylchedd Morol yr Alban (SMEEF). Rydym yn ddiolchgar am y mewnwelediad a’r arweiniad a rannwyd gan dîm SMEEF, sy’n ein helpu ni i lunio cronfa sy’n adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau penodol Cymru.

^
cyWelsh