Mae Cronfa MARINE Cymru wedi sicrhau ymrwymiad o £500,000 gan Ystad y Goron, y buddsoddiad cyntaf yn y cynllun newydd uchelgeisiol a fydd yn buddsoddi’n gynaliadwy mewn natur ar arfordir Cymru.
Bellach ar agor yn swyddogol ar gyfer cyfraniadau, mae Cronfa MARINE Cymru yn darparu llwybr newydd ar gyfer buddsoddiad hirdymor i adfer a sicrhau gwydnwch amgylchedd morol ac arfordirol Cymru.
Lansiwyd y gronfa yng nghynhadledd Coastal Futures yn Llundain fis diwethaf gan Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Cymru. Mae’n garreg filltir allweddol wrth droi uchelgais dan arweiniad partneriaeth yn weithredu ymarferol.
Mae Cronfa MARINE Cymru, un o fentrau Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (PMaA Cymru) yn cael ei rheoli gan CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru). Gan weithio’n agos gyda PMaA Cymru, mae CGGC wedi sefydlu’r dull llywodraethu a’r mesurau diogelu ar gyfer y gronfa ac mae’n parhau i arwain y gwaith o ddylunio a datblygu cynllun cenedlaethol cadarn sy’n datgloi buddsoddiad newydd i Gymru. Bydd cyllid yn cael ei ddosbarthu drwy grantiau i brosiectau adfer ecosystemau morol ac arfordirol ledled Cymru.
Mae PMaA Cymru yn dwyn ynghyd cyrff cyhoeddus, sectorau morol a sefydliadau amgylcheddol i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i fod â moroedd glân, iach, cynhyrchiol a biolegol amrywiol. Mae Cronfa MARINE Cymru yn ategu’r dull partneriaeth hwn i droi blaenoriaethau a rennir yn weithredu ymarferol, cydgysylltiedig.
Cefnogaeth gan Ystad y Goron
Mae’r £500,000 o gyllid sbarduno yn rhan o ymrwymiad Ystad y Goron i adfer natur, gan gydnabod y bwlch cyllido a’r angen i ddatgloi buddsoddiad cynaliadwy ym myd natur. Mae’r cyllid yn gatalydd a fydd yn helpu i drosoli buddsoddiad hirdymor pellach yn amgylchedd morol ac arfordirol Cymru, gan alluogi prosiectau sydd wir yn gwella gwydnwch ecosystemau lleol yng Nghymru.
Mae Cronfa MARINE Cymru wedi’i chynllunio i ddenu cyfraniadau o amrywiaeth o ffynonellau. Anogir buddsoddwyr sydd ag uchelgeisiau a rennir i gysylltu â CGGC i drafod datblygiad parhaus y gronfa. Disgwylir i rownd gyntaf y grant agor yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru:
‘Mae Cronfa MARINE Cymru arloesol ein Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd, a ddyluniwyd i gefnogi gwydnwch hirdymor ecosystemau ein moroedd ac arfordiroedd, yn gam mawr ymlaen i warchod ac adfer ein hamgylchedd morol gwerthfawr. Nod y gronfa yw datgloi buddsoddiad cynaliadwy ym myd natur er mwyn diogelu iechyd ein moroedd a’n harfordiroedd yn y dyfodol ar gyfer cenedlaethau i ddod.’
Dywedodd Dr David Tudor, Cadeirydd Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru:
‘Mae’r garreg filltir hon yn dyst i gryfder Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru. Mae natur gydweithredol PMaA wedi arwain yn uniongyrchol at y dull arloesol hwn, wedi’i ysgogi gan gyfraniadau rhagweithiol ein partneriaid sydd wedi ymrwymo i ddarparu dyfodol cynaliadwy a gwydn i arfordiroedd a moroedd Cymru.’
Dywedodd Caroline Price, Pennaeth Natur a’r Amgylchedd, Morol yn Ystad y Goron:
‘Ni ddylem danbrisio pwysigrwydd moroedd glân, cynhyrchiol a biolegol amrywiol i’n ffordd o fyw – yng Nghymru, ledled y DU a ledled y byd. Yn genedlaethol, mae buddsoddiad mewn adferiad natur yn parhau i fod yn isel ac mae Ystad y Goron wedi ymrwymo i chwarae ei rhan wrth fynd i’r afael â’r bwlch cyllido ar gyfer natur.
‘Rydym yn llawn cyffro ynghylch gweledigaeth Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru ac yn croesawu lansiad Cronfa MARINE Cymru. Mae hwn yn ddull cadarnhaol i gyfuno cyllid traws-sector i gefnogi prosiectau natur yn strategol ledled Cymru, ac rydym yn gobeithio y bydd ein cyllid sbarduno yn annog llawer o bobl eraill i gymryd rhan.’
Dywedodd Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr, CGGC:
‘Mae llawer o waith wedi mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni i gael Cronfa MARINE Cymru i’r pwynt hwn. Mae hon yn enghraifft wych o sut y gall meddwl yn wahanol ddod â chyllid newydd i Gymru i sicrhau canlyniadau ystyrlon i bobl a natur. Rydyn ni’n llawn cyffro i weld yr effaith y bydd hyn yn ei chael am flynyddoedd i ddod, ac rydym yn edrych ymlaen at ategu hyn a chael sgyrsiau gydag unrhyw bartneriaid posibl sy’n rhannu ein gweledigaeth a’n nodau.’
Mae Cronfa MARINE Cymru bellach ar agor ar gyfer cyfraniadau.