Grŵp Llywio
Mae Cronfa MARINE Cymru wedi’i datblygu drwy weithio mewn partneriaeth fel rhan o Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (CaSP Cymru).
Mae CaSP Cymru yn dod â chyrff cyhoeddus, rheolyddion, y diwydiant, y sector gwirfoddol a’r byd academaidd ynghyd i nodi blaenoriaethau a rennir ar gyfer amgylchedd morol Cymru a chefnogi datrysiadau cydweithredol. Mae’r dull hwn wedi llunio diben, llywodraethiant a model cyflawni’r Gronfa, gan sicrhau ei bod yn seiliedig ar dystiolaeth, profiad ymarferol ac ystod eang o safbwyntiau.
Gweler y mudiadau a gaiff eu cynrychioli ar hyn o bryd ar Grŵp Llywio Cronfa MARINE Cymru isod. Mae’r gynrychiolaeth o CaSP Cymru yn cynnwys y Cadeirydd ac o leiaf dau aelod, a benodwyd trwy broses recriwtio agored a’u dethol i adlewyrchu ystod eang o sectorau morol ac arfordirol.
Ystad y Goron (YyG)
YyG sy’n rheoli gwely’r môr a llawer o lannau môr Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys ardaloedd a ddefnyddir ar gyfer ynni, porthladdoedd a cheblau ar y môr. Mae ei chysylltiad â’r Gronfa yn dangos y cyswllt rhwng datblygiad morol a’r angen am fuddsoddiad hirdymor mewn iechyd a gwydnwch moroedd Cymru.
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)
CGGC yw’r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Y corff hwn yw Rheolwr Cyllid Cronfa MARINE Cymru ac mae’n defnyddio systemau sefydledig ac arbenigedd mewn rheoli grantiau i sicrhau llywodraethiant cryf, atebolrwydd ac adroddiadau clir ar y cyllid sy’n cael ei dderbyn a’i ddyrannu a’r canlyniadau sy’n cael eu cyflawni.
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru sy’n gosod y polisïau a’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer rheoli a diogelu amgylchedd morol Cymru. Mae ei chysylltiad â’r Gronfa yn helpu i sicrhau bod Cronfa MARINE Cymru yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer cynllunio morol, adferiad natur a defnyddio moroedd Cymru mewn modd cynaliadwy.
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
CNC yw’r prif reolydd a chynghorydd amgylcheddol yng Nghymru ac mae’n gyfrifol am reoli adnoddau naturiol ar dir a môr. Mae CNC yn rhoi arbenigedd ar ecosystemau morol, tystiolaeth a blaenoriaethau amgylcheddol i gefnogi buddsoddiad effeithiol wedi’i dargedu’n dda.
Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (CaSP Cymru)
Mae CaSP Cymru yn dod â’r llywodraeth, rheolyddion, y diwydiant, y sector gwirfoddol a’r byd academaidd ynghyd i nodi blaenoriaethau a rennir ar gyfer amgylchedd morol Cymru. Nhw ddechreuodd ddatblygu Cronfa MARINE Cymru ac maen nhw’n parhau i chwarae rôl allweddol mewn llywio cyfeiriad y gronfa a’r dull o weithio mewn partneriaeth.
Y Gymdeithas Cadwraeth Forol (MCS)
Mae’r MCS yn elusen o’r DU sy’n canolbwyntio ar amddiffyn moroedd, glannau a bywyd gwyllt. Mae ei chysylltiad â’r gronfa yn dod ag arbenigedd mewn cadwraeth forol, tystiolaeth a gweithredu ymarferol i gefnogi buddsoddiad effeithiol.
Ymddiriedolaethau Natur Cymru
Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn cynrychioli rhwydwaith o Ymddiriedolaethau Natur sy’n ymroddedig i adfer cynefinoedd a rhywogaethau ledled Cymru. Maen nhw eisiau sicrhau dyfodol gyda bywyd gwyllt y môr sy’n adfer, moroedd iach sy’n helpu i drechu’r newid yn yr hinsawdd, a chymunedau sy’n cael eu hysbrydoli gan natur a’u cefnogi gan dwristiaeth a physgodfeydd cynaliadwy.
Grŵp Defnyddwyr a Datblygwyr Gwely’r Môr (SUDG)
Mae SUDG yn cynrychioli rhai o ddiwydiannau morol allweddol y DU, sef: porthladdoedd, ynni adnewyddadwy gan gynnwys ynni gwynt ar y môr, agregau morol, olew a nwy, ynni niwclear, ceblau tanfor, hwylio hamdden a marinas a dal, defnyddio a storio carbon. Mae'r grŵp wedi'i uno gan bwrpas cyffredin i ddefnyddio a datblygu'r amgylchedd morol mewn modd cynaliadwy.
Diwydiant Dyframaeth Cymru
Mae Diwydiant Dyframaeth Cymru yn cynrychioli’r sector dyframaethu yng Nghymru, ac yn cyfrannu gwybodaeth am gynhyrchu bwyd môr a defnyddio adnoddau morol mewn modd cynaliadwy.
Fforwm Arfordirol Sir Benfro (PCF)
Mae Fforwm Arfordirol Sir Benfro (PCF) yn gweithio gyda chymunedau arfordirol, busnesau a chyrff cyhoeddus i gefnogi’r gwaith o reoli’r arfordir a’r môr mewn modd cynaliadwy. Mae’r fforwm yn ymgynnull partneriaid i gyd-greu cyfleoedd sy’n gwella gwydnwch, yn datgloi potensial economaidd cynaliadwy ac yn amddiffyn ein hamgylchedd arfordirol.
Porthladdoedd Cysylltiedig Prydain (ABP)
Porthladdoedd Cysylltiedig Prydain (ABP) yw prif grŵp porthladdoedd y DU. Mae’n gweithredu ac yn berchen ar 21 o borthladdoedd sy’n ymdrin ag oddeutu un chwarter o fasnach môr y wlad gyda’r byd. Yng Nghymru, mae ABP yn berchen ar bum porthladd y mae’n eu gweithredu: Caerdydd, y Barri, Casnewydd, Port Talbot ac Abertawe.
Cynnal Cymru
Cynnal Cymru yw prif elusen gynaliadwyedd Cymru, sy'n gweithio i gefnogi cymdeithas carbon isel, deg a chyfiawn lle gall natur ffynnu. Mae'n gweithio ar draws partneriaid yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, gan ddod ag arbenigedd mewn cydweithredu a datblygu cynaliadwy. Mae ei rôl ar Grŵp Llywio Cronfa MARINE Cymru yn helpu i lywio cyfeiriad y Gronfa a chynnal ffocws ar ganlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol hirdymor.