Person with camera at St Justinians

Cyfraniadau Moesegol

Delwedd: Llun gan Anna Elliott

Mae Cronfa MARINE Cymru yn croesawu cyfraniadau gan fudiadau ac unigolion sydd eisiau cefnogi adferiad amgylchedd morol ac arfordirol Cymru a’i wneud yn wydn.

Er mwyn diogelu uniondeb ac annibyniaeth y Gronfa, caiff pob cyfraniad arfaethedig ei ystyried trwy broses cyfraniadau moesegol a reolir gan CGGC, fel y mudiad sy'n gyfrifol am weinyddu Cronfa MARINE Cymru.

Mae'r broses hon yn helpu i sicrhau bod cyfraniadau:

  • yn cyd-fynd â nodau Cronfa MARINE Cymru
  • yn gyson â gwerthoedd CGGC
  • yn bodloni’r gofynion cyfreithiol, elusennol a llywodraethu perthnasol
  • ddim yn creu risgiau moesegol, amgylcheddol ac ariannol annerbyniol nac yn niweidio enw da

Diwydrwydd dyladwy

Mae pob darpar gyfrannwr yn destun diwydrwydd dyladwy cymesur cyn y bydd cyfraniad yn cael ei dderbyn. Gall hyn gynnwys gwirio gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd, fel perchnogaeth, ffynhonnell arian, cosbau, gwybodaeth ariannol, risg i’r amgylchedd ac enw da, achosion o wrthdaro buddiannau, sylw niweidiol yn y cyfryngau a gwybodaeth gyhoeddus berthnasol arall.

Efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol ar rai sectorau neu gyfranwyr oherwydd natur eu gweithgareddau, perchnogaeth neu effaith bosibl ar natur, hinsawdd, cymunedau neu ymddiriedaeth y cyhoedd.

Gall CGGC wrthod cyfraniad neu ei ddychwelyd pan allai ei dderbyn wrthdaro â nodau Cronfa MARINE Cymru, gwerthoedd CGGC, gofynion y gyfraith elusennau, neu'r angen i ddiogelu ymddiriedaeth y cyhoedd.

Delwedd: Llun gan Anna Elliott
Slider Version 2

Annibyniaeth

Nid yw cyfrannu at Gronfa MARINE Cymru yn golygu y gall cyfranwyr ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n ymwneud â grantiau, safbwyntiau polisi, penderfyniadau rheoleiddio, penderfyniadau cynllunio morol na gwaith CGGC, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ystâd y Goron, CaSP Cymru nac aelodau'r Grŵp Llywio. Nid yw derbyn cyfraniad yn golygu bod gweithgareddau, cynhyrchion, gwasanaethau, ceisiadau, trwyddedau neu safbwyntiau polisi ehangach cyfrannwr.

Nid yw derbyn cyfraniad yn golygu bod gweithgareddau, cynhyrchion, gwasanaethau, ceisiadau, trwyddedau neu safbwyntiau polisi ehangach cyfrannwr.
Ni ddylid defnyddio cyfraniadau i awgrymu cymeradwyaeth reoleiddiol, cydymffurfiaeth amgylcheddol, lliniaru, iawndal, gwrthbwyso neu driniaeth ffafriol oni bai bod hyn wedi'i gytuno'n ffurfiol, ei dystiolaethu neu ei gyfathrebu gan yr awdurdod cymwys priodol.

Delwedd: Llun gan Anna Elliott
Slider Version 2

Cydnabyddiaeth a thryloywder

Gall Cronfa MARINE Cymru gydnabod cyfranwyr yn gyhoeddus, er enghraifft ar wefan y Gronfa neu mewn cyfathrebiadau perthnasol. Bydd cydnabyddiaeth yn gymesur ac yn cael ei rheoli'n ofalus i osgoi unrhyw awgrym o gymeradwyaeth neu ddylanwad.

Bydd cyfraniadau a dderbynnir yn cael eu cofnodi a'u hadrodd yng nghyfrifon CGGC lle bo angen. Bydd cofnodion diwydrwydd dyladwy cyfrinachol yn cael eu cadw'n fewnol at ddibenion archwilio a llywodraethu.

Delwedd: Llun gan Sue Burton
Slider Version 2

Adolygu

Bydd y Polisi Cyfraniadau Moesegol yn cael ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn briodol, yn effeithiol ac yn cyd-fynd â nodau gofynion llywodraethu Cronfa MARINE Cymru ac CGGC.

^
cyWelsh