Coast Path Near Dinas

Gweledigaeth

Delwedd: Llun gan Anna Elliott

Gweledigaeth ac Amcanion

'Mae moroedd ffyniannus yn hanfodol i economi a chymunedau Cymru; maen nhw’n rhoi bwyd ac ynni, yn amddiffyn bywyd gwyllt ac yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.'

Gweledigaeth

Moroedd Cymreig sy’n lân, iach, diogel, cynhyrchiol, yn cael eu defnyddio mewn modd cynaliadwy ac yn fiolegol amrywiol

Nod

Gweithredu fel cronfa egwyddorol hirdymor sy’n buddsoddi mewn rhaglenni a phrosiectau sy’n galluogi, cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau morol ac arfordirol.

Amcanion

  1. Gwella iechyd, gwydnwch a bioamrywiaeth ecosystemau morol ac arfordirol Cymru
  2. Mynd i’r afael â’r newid hinsawdd a’r pwysau amgylcheddol ehangach drwy gamau ymarferol, seiliedig ar natur o fewn ecosystemau morol ac arfordirol
  3. Cynyddu gwybodaeth, sgiliau a phartneriaethau sy’n cryfhau adferiad ecosystemau morol hirdymor ac yn helpu cymunedau arfordirol i gyflawni canlyniadau cynaliadwy
^
cyWelsh