Rydym yn edrych ar sut mae’r gronfa wedi dod yn ei blaen, yr ymgysylltiad â’r sector a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol wrth i ni weithio tuag at agor y cylch grant cyntaf.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar roi’r blociau adeiladu allweddol yn eu lle ar gyfer y Gronfa. Mae hyn yn cynnwys:
- Sefydlu Grŵp Llywio gyda chynrychiolaeth o bob rhan o’r sector morol ac arfordirol
- Cytuno ar drefniadau llywodraethu craidd a phrosesau penderfynu
- Datblygu Polisi Cyfraniadau Moesegol y Gronfa
- Ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid i lunio cyfeiriad y Gronfa
- Mae’r gwaith hwn yn gosod sylfaen glir wrth i ni symud i’r cam nesaf.
Ymgysylltu â’r sector
Yn ddiweddar, aeth Rheolwr Datblygu Cronfa MARINE Cymru i gynhadledd Ynni Morol Cymru MEW2026 yn Llandudno. Roedd hwn yn gyfle gwerthfawr i arddangos y Gronfa i’r sector ynni morol, codi ymwybyddiaeth o’i rôl a dechrau sgyrsiau gyda chyfranwyr posibl.
Edrych ymlaen
Rydym yn anelu at lansio’r cylch grant gyntaf yn ddiweddarach eleni.
Pan fydd Cronfa MARINE Cymru yn agor am geisiadau, bydd angen i bob prosiect gyd-fynd ag o leiaf un o dri amcan y Gronfa (gweler isod). Gall cylchau grant ganolbwyntio hefyd ar themâu neu flaenoriaethau penodol. Mae’r dull gweithredu hwn yn caniatáu i fuddsoddiad gael ei dargedu at le y gall gyflwyno’r buddion mwyaf i amgylchedd morol ac arfordirol Cymru.
Dyma amcanion y Gronfa:
- Gwella iechyd, gwydnwch a bioamrywiaeth ecosystemau morol ac arfordirol Cymru.
- Mynd i’r afael â’r newid hinsawdd a’r pwysau amgylcheddol ehangach drwy gamau ymarferol, seiliedig ar natur o fewn ecosystemau morol ac arfordirol.
- Adeiladu gwybodaeth, sgiliau a phartneriaethau sy’n cryfhau adferiad hirdymor yr ecosystem forol ac yn cefnogi canlyniadau cynaliadwy i gymunedau arfordirol.
Rhagor o wybodaeth
Bydd rhagor o fanylion ar flaenoriaethau, cymhwysedd ac amserlenni yn cael eu rhannu yn ystod y misoedd i ddod.
Am ddiweddariadau neu i drafod cymorth posibl i Gronfa MARINE Cymru, cysylltwch ag:
Anna Elliott – Rheolwr Datblygu Cronfa MARINE Cymru
Ebost: [email protected]
Ffôn: 029 20431731