Welsh Reefs

Grantiau

Delwedd: llun gan Projiect Siarc

“Mae 69% o ddyfroedd glannau Cymru wedi’u diogelu o dan rwydwaith o 139 o Ardaloedd Gwarchodedig Morol.”

Nid yw Cronfa MARINE Cymru ar agor eto am geisiadau grant.


Mae’r Gronfa yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, a gwaith ar droed i gwblhau’r blaenoriaethau cyllido a phrosesau’r grant. Rydym yn disgwyl cyhoeddi ein cylch grant cyntaf yn ddiweddarach y flwyddyn hon, a bydd y canllawiau a’r manylion cymhwysedd llawn yn cael eu cyhoeddi ar y wefan hon ymlaen llaw.


Delwedd: llun gan Ken Barnett
Nid yw Cronfa MARINE Cymru ar agor eto am geisiadau grant.

Pan fydd Cronfa MARINE Cymru yn agor am geisiadau, bydd angen i bob prosiect gyd-fynd ag o leiaf un o dri amcan y Gronfa (gweler isod). Gall cylchau grant ganolbwyntio hefyd ar themâu neu flaenoriaethau penodol. Mae’r dull gweithredu hwn yn caniatáu i fuddsoddiad gael ei dargedu at le y gall gyflwyno’r buddion mwyaf i amgylchedd morol ac arfordirol Cymru.

Delwedd: Llun gan Anna Elliott
Slider Version 2

Dyma amcanion y Gronfa:

  • Gwella iechyd, gwydnwch a bioamrywiaeth ecosystemau morol ac arfordirol Cymru.
  • Mynd i’r afael â’r newid hinsawdd a’r pwysau amgylcheddol ehangach drwy gamau ymarferol, seiliedig ar natur o fewn ecosystemau morol ac arfordirol.
  • Adeiladu gwybodaeth, sgiliau a phartneriaethau sy’n cryfhau adferiad hirdymor yr ecosystem forol ac yn cefnogi canlyniadau cynaliadwy i gymunedau arfordirol.
Delwedd: llun gan James Shelton
Slider Version 2
^
cyWelsh